Crefydd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Symbolau crefyddol

Cyfundrefn o ffydd ac addoliad neu gred yw crefydd. Bodolasai crefyddau cyn hired â'r hil ddynol; nid oes yna adeg a ŵyr amdani yn hanes y ddaear a chrefydd ddim mewn bodolaeth yn ei hystod. Credir fod pump chweched ran o boblogaeth y ddaear yn ystyried eu hunain yn grefyddol.

Cynnwys

[golygu] Hanes

[golygu] Datblygiad crefydd

[golygu] Chwe phrif grefydd y byd

[golygu] Crefyddau Abrahamig

Prif erthygl: Crefyddau Abrahamig.

Dyma'r grŵp mwyaf o grefyddau gyda 3.8 biliwn o ddilynwyr yn fyd-eang.

[golygu] Cristnogaeth

Prif erthygl: Cristnogaeth.

Mae Cristnogaeth neu Gristionogaeth yn grefydd undduwiaeth sy'n seiliedig ar ddysgeidiaeth Iesu Grist. Gosodir allan prif egwyddorion Cristnogaeth yn y Testament Newydd, casgliad o lyfrau a llythyrau a ysgrifennwyd yn yr iaith Roeg yn wreiddiol ac sy'n rhan, gyda'r Hen Destament Iddewig (ac weithiau'r Apocryffa), o'r Beibl. Mae'r enw 'Crist' yn dod o'r gair Groeg Χριστός (Christos), sy'n golygu "yr Eneiniog".

[golygu] Iddewiaeth

Prif erthygl: Iddewiaeth.

Crefydd undduwiaeth yw Iddewiaeth, â thua 14 miliwn o ddilynwyr (Iddewon) byd-eang.

[golygu] Islam

Prif erthygl: Islam.

Un o grefyddau mwyaf poblogaidd a gwasgaredig y byd yw Islam. Ystyr y gair 'Islam' yw "ymostyngiad i ewyllys Duw" (Allah) a'r cyflwr tangnefeddus o fod yn un â Duw a phopeth a grëwyd ganddo. Mae'r gair yn gyfuniad o ddau air, sef salām sy'n golygu "tangnefedd" a'r gair slm sy'n golygu "ymostyngiad." Mae dilynwr Islam yn Fwslim, sef "un sy'n ymostwng i ewyllys Duw."

[golygu] Paganiaeth

Prif erthygl: Paganiaeth.

Crefydd lle addolir Duw(iau) a/neu Dduwies(au) yw Paganiaeth, sydd hefyd yn ffurf o amldduwiaeth. Y mae'n grefydd sydd yn credu mewn natur a phweroedd naturiol. Un o lwybrau modern o Baganiaeth yw Wica.

[golygu] Crefyddau dwyreiniol

Prif erthygl: Crefyddau dwyreiniol.

[golygu] Siciaeth

Prif erthygl: Siciaeth.

Crefydd un Duw yw Siciaeth neu Sikhiaeth sydd yn seiliedig ar athrawiaeth y deg Guru a drigai yng ngogledd India yn yr 16eg ganrif a'r 17eg ganrif. Mae'n un o brif grefyddai'r byd gyda dros 23 miliwn o ddilynwyr.

[golygu] Bwdhaeth

Prif erthygl: Bwdhaeth.

Crefydd ddi-dduw yn ei hanfod yw Bwdhaeth neu "Bwdïaeth." Gellir ei ystyried hefyd yn athroniaeth gymhwysol neu'n ffurf o seicoleg. Canolbwynt Bwdhaeth yw'r hyn a ddysgodd Gotama Buddha, ac annwyd yn Kapilavastu (sydd yn Nepal erbyn hyn), gyda'r enw Siddhattha Gotama oddeutu'r 5ed ganrif CC. Lledaenodd Bwdhaeth trwy is-gyfandir India yn y pumed ganrif nesaf, ac i ardaloedd ehangach o Asia wedi hynny. Er ei fod yn grefydd neu athroniaeth ddi-dduw, ceir nifer o "dduwiau" a bodau goruwchnaturiol eraill ym Mwdhaeth Mahayana ("Y Cerbyd Mawr"), e.e. ym Mwdhaeth Tibet.

[golygu] Hindŵaeth

Prif erthygl: Hindŵaeth.

Hindŵaeth yw crefydd gynhenid is-gyfandir India a phrif grefydd India ei hun heddiw.

[golygu] Gweler hefyd

Religion template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am grefydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill

Polecamy: Pozycjonowanie, wózki dziecięce, Kino domowe, Viagra, Kredyty