Wicipedia Cymraeg

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Wicipedia)
Neidio i: llywio, chwilio
Eicon ffefryn Wicipedia Wicipedia Cymraeg
Logo'r Wicipedia Cymraeg
Ciplun o hafan y Wicipedia Cymraeg
Ciplun o hafan y Wicipedia Cymraeg ar 29 Hydref 2009, diwrnod ar ôl cyrraedd 25,000 o erthyglau
URL cy.wikipedia.org
Masnachol? Nac ydy
Math o wefan Prosiect gwyddoniadur rhyngrwyd
Cofrestru Dewisol
Ieithoedd ar gael Cymraeg
Perchennog Sefydliad Wicifryngau
Lansiwyd ar Gorffennaf 2003

Argraffiad Cymraeg o Wicipedia yw'r Wicipedia Cymraeg. Dechreuwyd ym mis Gorffennaf 2003 ac erbyn 23 Mehefin 2007 cyhoeddwyd 10,000 erthygl - y 66ain wici mwyaf. Ar 20 Tachwedd 2008, roedd 20,000 erthygl, a llai na flwyddyn yn ddiweddarach, cyrhaeddwyd y targed o 25,000 erthygl ar 28 Hydref 2009.[1]

Cynnwys

[golygu] Cipolwg Ebrill 2012

[golygu] Nifer yr erthyglau

Ar y dydd olaf o Ebrill roedd y nifer o erthyglau wedi cyrraedd: 35,863. Roedd nifer y golygyddion gweithgar i fyny i 141 a'r nifer o olygiadau a wnaed bellach yn 1,301,944. Wicipedia ydy'r wefan Gymraeg fwyaf, gyda'r BBC yn ail.

[golygu] Erthyglau poblogaidd

Mae'r cyfartaledd tudalennau a gyrchir (neu a agorir) yn ddyddiol yn: 62,161 tudalen.[2] Ymhlith yr erthyglau mwyaf poblogaidd y mae'r canlynol:

  • 496: Hafan
  • 44: Cymraeg
  • 38: Google
  • 35: Wicipedia
  • 33: Cai
  • 31: Seren
  • 29: Unol Daleithiau America
  • 26: Pidyn
  • 26: Gwain
  • 25: Blog
  • 24: Saesneg
  • 23: Cymru
  • 23: Augustus John
  • 22: Rhyngrwyd

Mae'r rhifau'n cyfeirio at y nifer cyfartalog o weithiau y cyrchir (neu agorir) tudalen.

[golygu] Cipolwg Mawrth 2011

[golygu] Rhestr ieithoedd Wikipedia

Rhestr ieithoedd Wikipedia.
Ciplun o leoliad y Wicipedia Cymraeg ar Restr Ieithoedd Wikipedia, gan ddangos y nifer o erthyglau. Gwelwn fod 31,301 erthygl ar Wicipedia Cymraeg a'i fod yn 64ydd ar y rhestr; gan neidio o'r 66ed safle ym mis Ionawr 2011.

Erbyn 2012 roedd wedi llithro i'r 69fed safle er bod cynydd yn nifer yr erthyglau o ran cyfartaledd misol.

[golygu] Yr ieithoedd Celtaidd

  1. Llydaweg (Brezhoneg) – br – 36,873 erthygl
  2. Cymraeg – cy – 31,108 erthygl
  3. Gwyddeleg (Gaeilge) – ga – 12,258 erthygl
  4. Gaeleg yr Alban (Gàidhlig) – gd – 8,280 erthygl
  5. Manaw (Gaelg/Gailck) – gv – 3,739 erthygl
  6. Cernyweg (Kernewek) – kw – 2,042 erthygl

[golygu] Cyfeiriadau

  1. Metawiki
  2.  Most accessed pages [hits per day:]. Adalwyd ar 30 Ebrill 2012.

[golygu] Cysylltiadau allanol

Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill

Polecamy: Pozycjonowanie, wózki dziecięce, Kino domowe, Viagra, Kredyty