Wicipedia:Croeso, newydd-ddyfodiaid
|
Mynegai cymorth: Gofyn cwestiynau · Dysgu wicigôd · Darllen y Cwestiynau Cyffredin · Darllen y Rhestr Termau · |
Croeso i Wicipedia...Croeso! Rydym yn falch eich bod chi am gyfrannu at Wicipedia, a gobeithiwn eich bod yn mwynhau cyfranogi yn ei chymuned cymaint â ni. Fel cyfrannwr newydd, efallai y byddwch yn teimlo bod Wicipedia ychydig yn llethol oherwydd ei anferthedd, ond peidiwch â phoeni: bydd popeth yn hawdd ac yn glir cyn hir wrth ichi fynd ati i gyfrannu a golygu. Os dewch o hyd i broblemau ar y ffordd, mae Wicipedwyr eraill ar gael sy'n awyddus i'ch helpu. Mae'r cwbl o adnoddau isod ar gael i'ch helpu i gychwyn arni. Pob lwc, a mwynhewch! -- Y Wicipedia Cymraeg.
Os rydych mewn ffwdan, mae Wicipedwyr ar gael i ateb eich cwestiynau ar y tudalennau dilynol. Arhoswch ambell ddiwrnod (dau neu dri ar y mwyaf) am ymateb. Pe na chewch unrhyw ymateb, gofynnwch eto:
Ffeindio'ch ffordd o gwmpasEr mwyn deall Wicipedia, mae'n haws i'w feddwl amdano fel bod dau fath o dudalen ganddo: tudalennau sy'n rhan o'r gwyddoniadur ei hun, a thudalennau'r gymuned (wedi'u defnyddio gan gyfranwyr i helpu adeiladu a gweithredu'r gwyddoniadur). I ffeindio'ch ffordd o gwmpas y gwyddoniadur, gwnewch un o'r ddau beth yma: rhowch derm i mewn i'r blwch chwilio i chwith y sgrîn, neu ewch i Dabl Cynnwys Wicipedia. Mae tudalennau'r gymuned yn cynnwys cyfarwyddion, tudalennau cymorth, polisïau, canllawiau, fforymau trafod, llefydd i wneud ymholiadau, tudalennau i dynnu sylw ynghylch problemau, a thudalennau defnyddwyr. Mae'r rhain i gyd yn dudalennau ein bod yn eu defnyddio er mwyn datblygu'r gwyddoniadur ac i gyfathrebu gyda'n gilydd. Efallai bydd y tudalennau dilynol o gymorth ichi:
Cofiwch,
Ein "Rheolau"
Darllenwch y tudalennau uchod! Maen nhw'n bwysig iawn, a byddant yn eich helpu — hyd yn oed os nad ydych yn berffaith y Os oes angen cymorth arnoch...Os rydych chi wedi gwneud camgymeriad ac eisiau ei ddadwneud e, dychwelyd fe. Dyma sut i'w wneud fe: cliciwch ar hanes ar frig y tudalen y gwnaethoch y camgymeriad ynddo. Wedyn cliciwch ar dadwneud ar ddiwedd y llinell sy'n cynnwys eich golygiad. Wedyn cadw'r tudalen. Gweler cyfarwyddion mwy manwl at Cymorth:Dychwelyd. Mae dau brif ddull o gymorth ar Wicipedia: hunangymorth a chymorth gan eraill... Mae hunangymorth yn cynnwys darllen y tudalennau cymorth a chyfarwyddion o gwmpas Wicipedia. Dyma rai sy'n dudalennau hunangymorth addysgiadol addysgiadol:
Pan rydych mewn ffwdan neu'n ddryslyd, mae cymorth gan eraill ar gael ar dudalennau "desg" a "holi" Wicipedia - defnyddiwch y rhain hyn pan nid yw tudalennau hunangymorth wedi'ch darparu â digon o atebion:
Gall bron unrhyw un ar y rhestr hon yn eich helpu hefyd: |
