Wicipedia:Cyflwyniad

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cymorth:CynnwysCymorth:Cynnwys
Cymorth:Cynnwys

Ydych chi'n gweld "golygu" uchod? Ar Wicipedia, gallwch chi gyfrannu a chywiro gwallau yn y mwyafrif o erthyglau yn syth!

Cliciwch "Golygu" i newid erthygl
Beth yw Wicipedia?

Gwyddoniadur rhydd ydy Wicipedia, a ysgrifennir yn gydweithredol gan ei ddarllenwyr. Math arbennig o wefan ydyw, a elwir yn wici, sydd wedi ei gynllunio er mwyn sicrhau fod cydweithio'n hawdd. Mae nifer o bobl yn gwella Wicpedia'n barhaus, gan wneud miloedd o newidiadau bob awr. Cofnodir yr holl newidiadau hyn yn hanes yr erthygl a Newidiadau diweddar. Am fwy o fanylion am y prosiect, gweler Amdano Wicipedia.

Sut alla i gyfrannu?

Peidiwch ag ofni golygu — gall unrhyw un olygu bron unrhyw dudalen, ac fe'ch anogir i i fod yn ddewr! Ffeindiwch rywbeth a ellir ei wella - er enghraifft, sillafu, gramadeg, ail-ysgrifennu er mwyn ei wneud yn fwy darllenadwy, neu ddileu golygiadau anadeiladol. Os hoffech ychwanegu ffeithiau newydd, darparwch ffynonellau fel y gellir eu gwirio, neu awgrymwch hwy ar dudalen sgwrs yr erthygl. Gan amlaf, dylid trafod newidiadau ar bynciau dadleuol a phrif dudalennau Wicipedia yn gyntaf.

Cofiwch - ni allwch dorri Wicipedia; gellir gwrthdroi, trwsio neu wella pob golygiad. Felly ewch ati, golygwch erthygl byddwch yn rhan o'r prosiect o wneud Wicipedia yr adnodd gwybodaeth mwyaf defnyddiol ar y we!

Cyfrannwch — Mae Wicipedia yn rhad ac am ddim i'w ddefnyddio, ond mae'n dibynnu ar roddion a grantiau er mwyn aros felly. Ystyriwch gyfrannu os gwelwch yn dda, drwy glicio ar y ddolen Rhoddwch nawr ar frig y dudalen er mwyn helpu cynnal a datblygu'r safle.

Pam na cheisiwch olygu nawr?

  1. Cliciwch fan hyn i olygu'r pwll tywod, sef lle i wneud golygiadau prawf. (Os oes ysgrifen ar y dudalen eisoes, ychwanegwch eich testun ar waelod y dudalen.)
  2. Teipiwch beth ysgrifen.
  3. Cliciwch Dangos rhagolwg er mwyn gweld eich newidiadau, neu Cadw'r dudalen pan rydych yn hapus gyda'r ffordd mae'r dudalen yn edrych.
Nesaf: Dysgwch fwy am olygu
Offer personol

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill

Polecamy: Pozycjonowanie, wózki dziecięce, Kino domowe, Viagra, Kredyty