Wicipedia:Eginyn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Sunflower seedlings.jpg

Erthygl fer iawn yw eginyn, sydd fel arfer yn cynnwys un paragraff yn unig. Mae awdur eginyn yn ei greu er mwyn ysgogi pobl sydd â diddordeb yn y pwnc, neu sydd â llawer o wybodaeth amdano, i ychwanegu at yr erthygl.

Os byddwch chi'n creu eginyn, cofiwch ychwanegu {{eginyn}} at ddiwedd y darn, ac fe welwch y testun:

Wiki letter w.svg   Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato. ar y diwedd, sy'n dangos i'r byd mai eginyn yw'r erthygl.

I weld pa erthyglau sydd angen eu hehangu, gwyliwch y rhestr hon.

Wrth i'r Wicipedia dyfu rydym yn creu categorïau egin mwy penodol; mae gennym ni gategori ar gyfer eginau am hanes Cymru er enghraifft. I ychwanegu erthygl at y categori eginyn hwnnw, rhowch y nodyn {{eginyn hanes Cymru}} ar ddiwedd yr erthygl. Mae'r nodiadau eginyn hyn ar gael yn barod am nifer o wledydd, e.e. {{eginyn Montenegro}} a sawl pwnc a maes, e.e. {{eginyn athroniaeth}} ac {{eginyn cerddoriaeth}}.

Cewch weld rhestr lawn o'r nodiadau egin ychwanegol hyn yma.

Ond peidiwch â phoeni'n ormodol os nad ydych yn siwr pa nodyn i'w ddefnyddio. Bydd rhywun un siwr o sylwi ar yr erthygl newydd a'i roi yn y categori egin iawn. Y peth pwysig ydy creu yr erthygl yn y lle cyntaf:

Ewch ati felly!

Offer personol

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill

Polecamy: Pozycjonowanie, wózki dziecięce, Kino domowe, Viagra, Kredyty