Wicipedia:Polisïau a chanllawiau

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Mae Wicipedia yn brosiect cydweithredol sydd â'r amcanion a ganlyn:

Ein hamcan gyda Wicipedia yw creu gwyddoniadur ('encyclopaedia') a roddir am ddim, a hwnnw'r gwyddoniadur mwyaf a grëwyd erioed, o ran ei hyd a'i led. Carem iddo hefyd fod yn ffynhonnell ddibynadwy.

Mae i Wicipedia nifer o bolisïau a chanllawiau sy'n cael eu derbyn yn gyffredinol ac a ystyrir yn bwysig gennym, yn wir, fe'u hystyrir yn hanfodol gan sefydlwyr a defnyddwyr Wicipedia. Mae'r rhain yn ein cynorthwyo i gyrraedd yr amcanion hyn. Mae rhai ohonynt yn esblygu o ddydd i ddydd wrth i Wicipedia ddatblygu a chynyddu. Mae eraill, fodd bynnag, wedi hen sefydlu ac ni chaent eu hystyried mewn unrhyw ffordd yn ddadleuol gan y rhan fwyaf o hen liwiau Wicipedia.

Cynnwys

[golygu] Polisïau a dderbyniwyd (yn gyffredinol)

  • Osgoi rhagfarn (neu ogwydd).

Dylai erthyglau gael eu hysgrifennu o safbwynt niwtral, sy'n golygu y dylai'r erthygl gynrychioli o leiaf dwy farn wahanol, a hynny yn deg ac yn sensitif. Gweler Wicipedia:Arddull ddiduedd am esboniad manylach.

  • Peidiwch ag amharu ar hawlfraint. Mae Wicipedia yn wyddoniadur a roddir i bawb yn rhydd, yn rhad ac am ddim, a hynny o fewn termau GNU Free Documentation License. Mae uwchlwytho gwaith heb ganiatâd perchennog yr hawlfraint yn herio ein hamcanion, sef adeiladu gwyddoniadur cyfan gwbwl am ddim y gall unrhyw un ei ddosbarthu; gall hefyd arwain at atebolrwydd cyfreithiol dros yr holl brosiect. Gweler hawlfreintiau Wicipedia am ragor o wybodaeth.
  • Gwyddoniadur yw Wicipedia Dylai'r wefan gael ei defnyddio'n bennaf er mwyn hybu'r gwyddoniadur hwn. Pwrpas y tudalennau 'Sgwrs' yw gwella a hybu'r erthyglau. Gweler Wikipedia:What Wikipedia is not.
  • Parchwch ddefnyddwyr eraill Mae'r rheiny sy'n cyfrannu i Wicipedia'n dod o wahanol wledydd a diwylliannau ac mae ganddynt farn wahanol i'w gilydd yn aml. Gallwn gydweithio'n effeithiol i ddatblygu Wicipedia pan rydym yn parchu pobl ac amrywiaeth barn. Am chwaneg o ganllawiau, gweler: Moesau.
  • Dilyn y confensiynau. Drwy ddilyn rhai confensiynau gallwn greu gwyddoniadur mwy cyson a defnyddiol:

I weld y polisïau ar y defnydd o nodweddion cyfyngedig, gweler Gweinyddwyr.

Gweler hefyd camgymeriadau mwyaf cyffredin Wicipedia am wybodaeth ar gyfer y dysgwr.

[golygu] Sut mae'r polisïau hyn yn cael eu gorfodi?

Golygydd Wicipedia yw...chi. Nid oes "Prif Olygydd" neu sensor mawr sy'n goruchwylio'r holl waith o ddydd i ddydd. Yn hytrach, mae'r defnyddwyr eu hunain yn monitro newidiadau diweddar a chywiro gwallau'n ymwneud â hawlfraint a chynnwys a fformadu fel maent yn codi.

Mewn achosion eithriadol mae Jimbo Wales yn medru atal defnyddiwr sydd wedi bod yn hen niwsans. Mae Jimbo wedi creu rhai polisïau swyddogol ar ran Wicipedia: this Wikien-l post a en:User:Jimbo Wales/Statement of principles.

[golygu] Sut y crëwyd y polisïau

Ymarfer da a chonsensws barn mewn gwirionedd sydd wrth wraidd ein polisïau. Yn yr un modd, crëwyd y canllawiau hyn er mwyn disgrifio'r gymuned a gwaith y gymuned fel y mae hi heddiw a'r ymarfer da maent wedi ei grynhoi a'i gasglu dros y blynyddoedd. Rydym yn parhau i drafod ac ystyried problemau ar dudalennau sgwrs, Meta-Wikipedia, a'r rhestr postio ar Wicipedia-L. Dylai pawb sydd â diddordeb â pholisïau Wicipedia fod ar y rhestr honno.

Mae rhai defnyddwyr wrthi fel lladd nadroedd ar y proses o wneud penderfyniadau, ac yn gobeithio y caiff ei dderbyn fel set o bolisïau'r prosiect ynghyd â'r prosesau a ddefnyddir wrth ddehongli'r polisïau hyn.

[golygu] Canllawiau i'w hystyried

Yn ogystal â'r polisïau cyffredinol rydym wedi'u rhestru uchod, mae'r canlynol hefyd wedi'u hawgrymu gan ddefnyddwyr:

[golygu] Canllawiau cyffredinol

[golygu] Canllawiau ymddygiad

[golygu] Canllawiau cynnwys

[golygu] Canllawiau arddull

[golygu] Erthyglau a sgyrsiau eraill ynghylch Wicipedia

  • Mae gwefan Meta-Wikipedia yn cynnwys llawer o erthyglau ynglŷn â Wicipedia a phynciau perthynol mewn dull mwy golygyddol.
  • Creu erthyglau sut-i ar Wicipedia.
Offer personol

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill

Polecamy: Pozycjonowanie, wózki dziecięce, Kino domowe, Viagra, Kredyty