Wicipedia:Y Caffi

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Coffi

Croeso i'r Caffi - y lle i chi drafod sut mae pethau'n gweithio yma, polisïau, a phroblemau technegol a gofyn cwestiynau ynglŷn â Wicipedia, yn Gymraeg neu Saesneg. Mae llefydd defnyddiol yn cynnwys: y Ddesg Gyfeirio, y Ddesg Gymorth, y Tudalen Cymorth iaith a'r negesfwrdd gweinyddiaeth.

I ychwanegu cwestiwn, cliciwch yma i ddechrau pennawd newydd, a theipiwch eich neges. Cofiwch lofnodi'r neges drwy ychwanegu pedair sgwigl (tilde) (~~~~) ar y diwedd.


Cynnwys

[golygu] Gweithdy/Gweithdai Wicipedia yn Eisteddfod Genedlaethol 2012

Fel rhan o'r Cynllun Datblygu uchod mae rhan am weithgaredd yn ystod Eisteddfodau Cenedlaethol. Ym Mro Morgannwg eleni, bydd gofod pwrpasol ar gael ble gallwn gynnal gweithdy golygu Wicipedia. Bydd taflunydd, sgrin fawr ac yn bwysicach na dim, cyswllt di-wifr ar gael. Criw Hacio'r Iaith fydd yn gyfrifol am y gofod, ac mae amserlen, ac mae'n nhw'n awyddus i drio cadarnhau rhaiu sloiau fel y gallant gael eu cynnwys yn rhaglen swyddogol y steddfod. Mae nhw wedi cynnig 1 neu 2 slot ymarferol (e.e. gweithdai) yn y prynhawniau, ac o bosib slot 'sgwrs' un bore, ble mae modd unai rhoi cyflwyniad (e.e. Lle Wicipedia ym myd addysg?) eu falle panel.

Mae amserlen ddrafft wedi ymddangos ar wefan Hacio'r Iaith, ac ar hyn o bryd ar brynhawn Mercher mae slot gweithdy Wicipedia. Croseo i chi adael sylw yno. Os liciwch chi gymryd rhan yn y gweithdy/gweithdai (unai'n rhoi cyflwyniad byr, neu cynorthwyo fel hwylysudd), nodwch pryd fyddwch ar gael yma, fel ein bod ni'n gallu trio am slot sy'n gyfleus i'r nifer fwyaf ohonom. Mae Deb a Dyfrig wedi nodi amseroedd + bydda i, Llywelyn2000 a Llewpart ar gael rhywbryd, ond nid ydym wedi gallu cadarnhau'n union eto.--Ben Bore (sgwrs) 20:38, 28 Ebrill 2012 (UTC)

[golygu] Angen Job?

Mae gen i swp o erthyglau i'w creu ar y dudalen: Rhestr gwyfynod a gloynnod byw. Os oes gan rywun awydd dilyn y rhestr, gallwch ychwnegu gwybodaeth arnyn nhw (o'r Saesneg) e.e. maint, lleoliad. Gellid gwiro hefyd bod teitl y Nodyn yn Gymraeg a sillafu'r gair "cynnwys" yn gywir! Os na ga i help - mi wna i o fy hun! :-} Llywelyn2000 (sgwrs) 05:36, 30 Ebrill 2012 (UTC)

Yes check.svg Cwblhawyd


[golygu] Cyfeiriadau angenrheidiol

Mae geirwirdeb Wici'n ddibynol ar medru profi pob gosodiad drwy ffynhonellau (neu gyfeiriadau). Mae nhw'n ANGENRHEIDIOL. Mae'n job boring (a diflas!) ond mae'n rhaid ei wneud. Dw i wedi cychwyn ar yr hen erthyglau, drwy fynd drwy'r rhestr yma (Tudalennau Arbennig -> Erthyglau Hynaf). Dw i wedi gosod y refs arnyn nhw hyd at yr erthygl ar Falltraeth - 4 Chwefror 2007. Mae 'na bum mlynedd o erthyglau i'w gwiro a'u cywiro! Mae can croeso i bawb helpu! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:25, 4 Mai 2012 (UTC)

Mae'r Nodion Categori:Dim-ffynonellau a Categori:Tudalennau ag angen ffynonellau wedi'u gosod ar rai erthyglau'n barod. Gellir cychwyn gyda'r rhain, wrth gwrs. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:33, 4 Mai 2012 (UTC)

A ddylid dileu'r holl erthyglau sydd HEB gyfeiriadau / ffynhonnell, fel ag a wneir yn Wiki-en? Beth yw eich barn? Llywelyn2000 (sgwrs) 07:46, 7 Mai 2012 (UTC)
Dwi o blaid hyn - mae ychwanegu ffynonellau a chyfeiriadau at erthyglau yn andros o dasg. Ond mae'r ail gategori, sef Categori:Tudalennau ag angen ffynonellau yn wahanol i'r blaenorol - defnyddir y nodyn Nodyn:Angen ffynhonnell lle bo honiad ac mae angen ffynhonnell neu ragor o eglurhad arno fe; mae'r categori Categori:Tudalennau ag angen ffynonellau ar gyfer erthyglau lle nad oes dim ffynhonnell o gwbl. Os ydyn ni'n mynd i ddileu erthyglau, dylen ni eu dileu yn ôl Categori:Dim-ffynonellau. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 13:44, 7 Mai 2012 (UTC)
Mae ychwanegu ffynonellau'n dasg bwysig iawn, ond yn fy marn i ddylwn dim ond dileu'r erthyglau rydym wir yn cwestiynu eu gwirionedd/amlygrwydd. Neu, os oes honiad dadleuol heb ffynhonnell o fewn erthygl sy fel arall yn un ddilys, yna dileu'r honiad yn unig (os na chanfodir tystiolaeth ei fod yn wir). Dwi'n credu taw camgymeriad mawr bydd ddileu nifer fawr o erthyglau Wicipedia! Dwi'n amau bod gan yr erthyglau heb gyfeiriadau ddigon o gamgymeriadau ynddynt i gyfiawnhau hyn — gwella'r erthyglau yw'r ffordd ymlaen. Mae Categori:Tudalennau ag angen ffynonellau a Categori:Dim-ffynonellau yn ddefnyddiol i ganfod yr erthyglau sy angen sylw'n gyntaf. —Adam (sgwrscyfraniadau) 17:22, 7 Mai 2012 (UTC)
Mae angen gwneud rywbeth, ond cytuno gyda Adam na ddylid mynd a dileu'r holl erthyglau rwan. Efallai penderfynu ar dydddiad, ac o'r dyddiad hynny ymlaen, dechrau bod mwy pendant gyda chanllawiau. --Ben Bore (sgwrs) 19:58, 7 Mai 2012 (UTC)
Adam: dyna a gredais innau tan yn ddiweddar. Bellach, fe ddywedir fod "pob manylyn" yn agored i'w cwestiynu a'u herio. Ar Wiki, mae angen 2 "dystiolaeth allanol" ym mhob erthygl i'w dilysu, ac er mwyn profi eu bont yn haeddu erthygl arnyn nhw. Gweler yma: editors are strongly advised to provide citations for all information added to Wikipedia...
Gall y ffynhonnell fod ar ffurf arall hefyd sef yn "Ddolen allanol" ac weithiau mae gennym erthyglau lle ceir yr is-deitl "Llyfryddiaeth", ac mae'r rhain hefyd yn bodloni'r gofynion.
Ond parthed fy her i ddileu "holl erthyglau sydd HEB gyfeiriadau / ffynhonnell" - roedd fy nhafod yn fy moch! Eu hychwanegu i'r erthygl ydw i, ond efallai fod angen pwysleisio i bawb mai'r fynhonnell (neu'r cyfeiriadau) hyn ydy'r PETH PWYSICAF SYDD GAN EIN HERTHYGLAU. Mae'n rhoi grym iddyn nhw. Dw i'n amcangyfrif fod hanner ein herthyglau heb ffynhonnell. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:16, 8 Mai 2012 (UTC)

Pwysig. Ar fy nghais, mae Hazard-SJ wedi cynhyrchu nifer o dudalennau sy'n cynnwys dolennau gwallus. Mae wedi gadael neges ar y dudalen Sgwrs yn nodi'r union ddolen. Mae 'na waith mawr yn fama: misoedd o waith. I'w wneud yn sydyn, y peth hawdda ydy dileu'r ddolen wallus. Cofiwch ddileu'r Categori hefyd. Diolch.Llywelyn2000 (sgwrs) 04:28, 10 Mai 2012 (UTC)

[golygu] Hafan

Dw i wedi ychwanegu chydig o wybodaeth ar ben uchaf, dde ein Hafan - ar ffurf baner - am Pedia Trefynwy; mae'r diwrnod lansio ar y 19eg. Tref Wicipedia Gyntaf y Byd. Gobeithio fod hyn yn dderbyniol. Cafwyd gais gan Roger (Cadeirydd WMUK) am hyn. Diolch. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:38, 6 Mai 2012 (UTC)

Mi fydde'n wych medru cael 10 i 12 baner wahanol i ddod arno'n otomatig e.e. 11 Rhagfyr: Diwrnod Llywelyn II neu "Cofiwch: Dydd Santes Dwynwen, Ionawr....". Mi ryden ni wedi gwneud hyn yn y gorffennol efo Dydd Gwyl Ddewi, sut mae gwneud hyn yn otomatig? Os cytunwch, beth am wneud rhestr o faneri posib? Llywelyn2000 (sgwrs) 07:47, 6 Mai 2012 (UTC)

Dw i wedi defnyddio ffont efo cysgod yn y Faner. Fyddai ysgrifen HEB gysgol yn well, gan mai dyna ydy arddull gweddill tudalennau Wici? Llywelyn2000 (sgwrs) 06:52, 7 Mai 2012 (UTC)

Awgrymiadau o faneri:
Parhaol:

& 15 Ionawr Diwrnod Wicipedia

Newidiol: 2012

ayb Llywelyn2000 (sgwrs) 07:12, 7 Mai 2012 (UTC)

Oes 'na chwaeg o ddyddiau pwysig? Llywelyn2000 (sgwrs) 07:37, 14 Mai 2012 (UTC)
Pryd mae troi'r cloc? Llywelyn2000 (sgwrs) 05:19, 17 Mai 2012 (UTC)
Sut allet ti anghofio y pwysica ohonynt i gyd, sef 15 Ionawr? (newydd ddod ar ei draws rwan ydw i!)--Ben Bore (sgwrs) 20:46, 17 Mai 2012 (UTC)
Diolch; wyddwn innau ddim chwaith! Llywelyn2000 (sgwrs) 05:01, 18 Mai 2012 (UTC)

[golygu] Y Cynllun Datblygu

Diolch i bawb a roddodd sylwadau ar y Cynllun Datblygu. Byddaf yn ei gyflwyno rwan i WMUK. Sylwch hefyd ar un datblygiad diddorol, sef Golygathon Cyntaf Wicipedia a gynhelir ar 30 Mehefin am 9.30 y bore. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:11, 10 Mai 2012 (UTC)

[golygu] Dolennau gwallus a chyfeiriadau

Yn dilyn trafodaethau diweddar ar bwysigrwydd ffynhonnell, mae Hazard-SJ wedi cynhyrchu nifer o Tudalen gyda dolen wallus|dudalennau sy'n cynnwys rhestr o ddolennau gwallus. Mae'n gadael neges ar y dudalen Sgwrs yn nodi'r ddolen ddiffygiol. Mae 'na waith mawr yn fama, dyddiau o waith. I'w wneud yn sydyn, y peth hawdda ydy dileu'r ddolen wallus. Cofiwch ddileu'r Categori hefyd. Llywelyn2000 (sgwrs)

[golygu] URL Cofiadwy

Dw i wedi prynnu a phwyntio http://wicipediacymraeg.org. at yr Hafan, gan ei fod yn llawer mwy cofiadwy na'r hen gyfeiriad. Fyddai hi'n syniad ei roi ar dop ein tudalennau, yn rhywle, fel ei fod yn sticio ym meddwl ein darllenwyr? O dan y logo (jig-so o'r blaned?), neu ym mhle? Llywelyn2000 (sgwrs) 08:11, 23 Mai 2012 (UTC)

Offer personol

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer

Polecamy: Pozycjonowanie, wózki dziecięce, Kino domowe, Viagra, Kredyty